Haggai 2

Ysblander y deml

1Yna ar yr unfed ar hugain o'r seithfed mis
2:1 unfed ar hugain o'r seithfed mis y mis oedd Tishri (neu Ethanim), sef seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref. Hwn oedd diwrnod olaf Gŵyl y Pebyll (gw. Lefiticus 23:34). Mae'r dyddiad yma'n cyfateb i Hydref 17, 520 CC yn ein calendr ni.
yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, dyma'r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr Arglwydd:

2“Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a'r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dywed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd:

3‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm b, yn ei holl ysblander? A sut mae'n edrych i chi nawr? Dim byd o'i chymharu mae'n siŵr! 4Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb’—meddai'r Arglwydd. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r Arglwydd holl-bwerus. 5‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’”
6“Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r tir. 7Bydda i'n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n dod ac yn cyflwyno eu trysorau, a bydda i'n llenwi'r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’—meddai'r Arglwydd holl-bwerus. 8‘Fi piau'r arian, a fi piau'r aur,’—meddai'r Arglwydd holl-bwerus. 9‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r Arglwydd holl-bwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r Arglwydd holl-bwerus wedi dweud.”

Holi'r offeiriaid am aflendid

10Ar y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis
2:10 pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis y mis oedd Cislef, sef nawfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr. (Tri mis ar ôl i'r gwaith o ailadeiladu'r deml ddechrau.) Mae'r dyddiad yma'n cyfateb i Rhagfyr 18, 520 CC yn ein calendr ni.
yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr Arglwydd:

11Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i'r offeiriaid am arweiniad o'r Gyfraith: 12‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi ei aberthu wedi ei lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu rhyw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.” 13A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw d yn dod i gysylltiad â'r bwydydd hynny, fydd hynny'n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma'r offeiriaid yn ateb, “Bydd.”

14Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae'r un peth yn wir am y bobl yma a'r genedl yma,’ meddai'r Arglwydd, ‘a'u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw'n ei offrymu yn aflan!

15“‘Meddyliwch sut roedd pethau cyn i'r gwaith o ailadeiladu teml yr Arglwydd ddechrau. 16Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o'r cafn, doedd ond dau ddeg yno. 17Ro'n i'n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai'r Arglwydd.

18“‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfaeni eu gosod i ailadeiladu teml yr Arglwydd, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis): 19Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy'r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a'r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i'n mynd i'ch bendithio chi.’”

Yr Arglwydd yn annog Serwbabel

20A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr Arglwydd ar y pedwerydd ar hugain o'r mis: 21“Dywed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear. 22Dw i'n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau'r gwledydd. Bydda i'n troi'r cerbydau rhyfel drosodd, gyda'i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a'u marchogion yn lladd ei gilydd.

23“‘Ar y diwrnod hwnnw,’—meddai'r Arglwydd holl-bwerus—‘bydda i'n dy gymryd di, Serwbabel fy ngwas, ac yn dy wneud di fel sêl-fodrwy
2:23 sêl-fodrwy Cafodd yr un darlun i ddefnyddio i ddisgrifio'r Brenin Jehoiachin (taid Serwbabel) (gw. Jeremeia 22:24-30 lle roedd Duw yn cymryd yr arwydd yma o awdurdod oddi ar Jehoiachin.)
. Dw i wedi dy ddewis di.’ Dyna mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud.”

Copyright information for CYM